Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu’r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i’w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 14 Chwefror 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Sefydlu’r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth (45 munud)

·         Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 (15 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil (15 munud)

·         Dadl:  Morlynnoedd Llanw (60 munud)

·         Dadl:  Setliad yr Heddlu 2017-18 (30 munud)

 

Dydd Mercher 15 Chwefror 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y Darlun Mawr, Safbwyntiau cychwynnol ar ddarlledu yng Nghymru (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (60 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

NNDM6204

Hannah Blythyn (Delyn)

Jeremy Miles (Castell-nedd)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod mis Chwefror yn Fis Hanes LGBT, ac yn gyfle blynyddol i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru.

 

2. Yn nodi ymhellach gyfraniad pobl LGBT a mwy i’n cymunedau a’n gwlad.

 

3. Yn cydnabod y rôl a chwaraeir gan eiconau LGBT a chyfeillion heterorywiol yng Nghymru, fel y dangosir gan yr arddangosfa eiconau a chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn.

 

4. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau.

 

5. Yn credu bod angen bod yn effro i sicrhau bod hawliau LGBT a mwy yn cael eu diogelu.

 

6. Yn cymryd yr awenau o ran parhau i hybu cydraddoldeb a herio gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau bod Cymru yn genedl groesawgar i bobl LGBT a mwy.

 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) (30 munud)


Toriad: Dydd Llun 20 Chwefror 2017 - Dydd Sul 26 Chwefror 2017

Dydd Mawrth 28 Chwefror 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Adolygiad Addysg ac Argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (45 munud)

·         Dadl:  Egwyddorion Cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (60 munud)

·         Cynnig i gymeradwyo’r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 1 Mawrth 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith (45 munud)

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (45 munud)

Busnes y Cynulliad

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ymchwiliadau ac Ymgysylltu (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

·         Dadl Fer – Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 7 Mawrth 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Diweddariad o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc (45 munud)

·         Dadl:  Yr Ail Gyllideb Atodol 2016-17 (60 munud)

·         Dadl:  Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16 (60 munud)

·         Dadl:  Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (60 munud)

 

Dydd Mercher 8 Mawrth 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (45 munud)

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (45 munud)

Busnes y Cynulliad

 

NNDM6210

Lee Waters (Llanelli)

Jeremy Miles (Castell-nedd)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Hefin David (Caerffili)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod tua 40 y cant o’r gweithlu sy’n cael eu cyflogi yn yr ‘Economi Sylfaenol’ yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel: seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu; ac iechyd, addysg a gofal.

 

2. Yn cydnabod bod y sectorau hyn yn aml yn fwy abl i wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod ganddynt gryn botensial i sicrhau mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol.

 

3. Yn gresynu fod llawer o’r sectorau o fewn yr Economi Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac ansicrwydd.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i wneud yn fawr o effaith yr ‘Economi Sylfaenol’ ledled Cymru fel rhan o’i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd, gan gynnwys mesurau i wella amodau cyflogaeth yn y sectorau hynny.